Weithiau yn ein bywydau mae arnom ni i gyd angen help llaw i fynd i ble mae arnom eisiau mynd.
Os ydych chi ar fudd-dal afiechyd neu ynghlwm ag anabledd, ac yn meddwl mynd yn ôl i’r gwaith, Llwybrau ydi’r help llaw hwnnw - rydym bob amser yn barod ac yn fodlon rhoi i chi’r gefnogaeth a’r arweiniad y mae arnoch ch’u hangen.
Byddwn yno ar eich cyfer chi fel y magwch chi sgiliau a hyder, fe’ch cefnogwn ni chi i ymdopi â’ch cyflwr iechyd, ac wrth gwrs eich rhoi ni chi ar ben y ffordd i gael gwaith sy’n dygymod â chi go iawn.
Cynllun tan gamp ydi Llwybrau at Waith sy’n helpu pobol sydd ar fudd-daliadau afiechyd neu ynghlwm ag anabledd i fagu eu sgiliau a’u hyder, rheoli eu cyflwr ac yn y pen draw cael gwaith sy’n dygymod â nhw.
Mae rhai pobol yn dod at gynllun Llwybrau ar gyngor Job Centre Plus. Maen nhw’n gwybod eu pethau go iawn yn Job Centre Plus, felly trystiwch nhw pan gynigian nhw eich bod chi’n dod atom ni!
Efallai bod rhai pobol yn mynd heibio’n canolfannau ar y stryd fawr, ac yn synnu o weld pobol yn cael y fath hwyl yno. Efallai bod pobol eraill yn codi un o’n taflenni, neu’n galw heibio i ni ar gyngor y teulu a ffrindiau.
Sut bynnag y dowch chi i gynllun Llwybrau, gallwch fod yn siwr o un peth. Fe wnawn ni bopeth yn ein gallu i’ch helpu chi i wella eich bywyd trwy fynd yn ôl i’r gwaith.
Yr un peth sydd gennym ni i gyd ar y cyd ydi ein bod ni i gyd yn ddigymar. Sy’n golygu na does gennym ni ddim ffordd benodol o ddelio â chi. Pa les fyddai hynny? Fe wyddom ni mai unigolyn ydych chi, nid rhif.
Pan ddowch chi i mewn i’n gweld ni, y peth cyntaf un y gallwch chi’i ddisgwyl ydi croeso cynnes, a thoc wedyn paned a hyd yn oed bisgeden siocled neu ddwy os byddwch chi’n lwcus.
Eisteddwn ni i lawr a chael sgwrs dda. Am y tywydd, eich gwyliau chi, cath newydd eich modryb – beth bynnag sydd ar eich meddwl chi. Fe sgwrsiwn ni hefyd am eich profiadau o waith – beth sy’n eich dal chi’n ôl ac, mewn byd delfrydol, ymhle byddai’n dda gennych chi fod.
Wedyn fe ddechreuwn ni lunio cynllun gweithredu sy’n golygu ein bod yn gweithio’n glòs gyda chi i’ch helpu chi i gyrraedd eich nodau. Byddwn yno ar eich cyfer chi bob cam o’r ffordd, yn rhoi hwrê fawr i chi fel y symudwch chi ymlaen. Rydym wrth ein bodd wir pan ddaw cynllun at ei gilydd.
I gael hyd i’ch swyddfa Llwybrau A4e nesaf, neu i gael gwybod mwy am sut y gallwn ni eich helpu chi i fynd yn ôl i’r gwaith, rhowch ganiad i ni ar 08454 23 33 33.
Neu gallwch glicio yma i gael hyd i’ch swyddfa Llwybrau nesaf. Rydym yn edrych ymlaen at glywed gennych chi.
Did you know? If you find work and earn less than £15,000 a year, you'll receive an extra £40 a week paid by Job Centre Plus, on top of your wages for a whole year.